Flyers and flowers at our Master Gardeners project in mid Wales

Prif Arddwyr Tyfu Dyfi

Mae Tyfu Dyfi yn rhaglen Prif Arddwyr yng nghanolbarth Cymru sy'n hyfforddi gwirfoddolwyr i rannu sgiliau a gwybodaeth am dyfu organig ymhlith trigolion a chymunedau Biosffer Dyfi. Darganfyddwch sut y gallech wirfoddoli neu gael cymorth gan ein tîm.
Mae Prif Arddwyr Tyfu Dyfi yn wirfoddolwyr sy’n cael eu recriwtio, eu hyfforddi a’u cefnogi gan Garddio Organig i helpu i gysylltu’r cyhoedd â natur ar gyfer bwyd a llesiant, trwy dyfu’n organig.

Ynghylch 🔗

Mae Tyfu Dyfi yn rhaglen Prif Arddwyr nghanolbarth Cymru, ein prosiect rhwydwaith mentoriaid gwirfoddol diweddaraf yn y wlad.

Rydym yn rhan o gonsortiwm o bartneriaid o’r un anian a arweinir gan y sefydliad lleol EcoDyfi sy’n cyflawni prosiect Tyfu Dyfi, a ariennir gan Lywodraeth Cymru.

Mae ein rôl yn cynnwys rhannu sgiliau, gwybodaeth a hyfforddiant ynghylch tyfu organig ymhlith trigolion a chymunedau Biosffer Dyfi, ardal ddynodedig UNESCO o amgylch Machynlleth ac Aberystwyth. Mae'r prosiect yn rhedeg o 2021 i 2023.

Mae Tyfu Dyfi yn cynyddu nifer y safleoedd tyfu yn yr ardal er mwyn cysylltu’r cyhoedd â byd natur, er mwyn bwyd a llesiant. Mae’n sefydlu safleoedd tyfu, yn cynnwys y gymuned leol, ac yn cefnogi datblygiad cadwyni cyflenwi byr.

Nodau 🔗

Nod y prosiectau yw cyflawni:

  • hwb i'r economi bwyd lleol
  • mwy o gyfranogiad gan gymunedau lleol mewn tyfu - mwy o bobl, demograffeg ehangach
  • cyfraniad i'r agenda cynaladwyedd
  • sylfaen i adeiladu arni pan ddaw'r prosiect i ben.

Nodau’r gwirfoddolwyr yw:

  • Codi ymwybyddiaeth o fanteision tyfu eich bwyd eich hun
  • Annog mwy o bobl i dyfu gartref neu ar dir cymunedol
  • Cefnogi a chynghori pobl i dyfu gartref neu ar dir cymunedol gan roi pob cyfle iddynt lwyddo yn eu gweithgareddau

Gwirfoddolwyr 🔗

Mae Prif Arddwyr yn wirfoddolwyr sydd ag o leiaf dwy flynedd o brofiad tyfu bwyd ac angerdd dros annog eraill i roi cynnig arni. Mae technegau tyfu organig yn rhan o'ch hyfforddiant felly nid oes angen i chi fod yn arbenigwr.

Mae yna Brif Arddwyr o amrywiaeth eang o oedran, cefndir a diwylliant. Mae hyn yn cyfrannu at effeithiolrwydd y cynllun – gall Prif Arddwyr gyrraedd rhannau o gymuned na all gweithgareddau eraill eu cyrraedd.

Mae gweithgareddau Prif Arddwyr yn cynnwys siarad â ffrindiau, teulu a chymdogion a chynnig cyngor a chefnogaeth barhaus, mynychu ffeiriau pentref neu roi sgyrsiau i grwpiau lleol.

Mae'r rhan fwyaf o Brif Arddwyr yn treulio tua 30 awr y flwyddyn yn eu gweithgareddau gwirfoddol. Mae'r 30 awr hyn yn cynnwys yr holl amser teithio a pharatoi. Fodd bynnag, nid yw'r ffigur hwn yn orfodol.

Master Gardeners project Mid Wales
Cydlynydd Prosiect, Jade, yn plannu llysiau yn y prosiect haf diwethaf.

Buddion 🔗

Y cam cyntaf i ddod yn Brif Arddwr yw mynychu cwrs hyfforddi. Pwrpas yr hyfforddiant hwn yw sicrhau bod gan bob gwirfoddolwr yr un lefel sylfaenol o wybodaeth. Bydd eich lle ar y cynllun Meistr Garddwr yn cael ei ariannu’n llawn ac ni fydd yn rhaid i chi dalu am y cwrs hyfforddi nac unrhyw adnoddau. Gallwch hawlio treuliau a dalwyd wrth wirfoddoli yn ardal y prosiect. Byddwch yn cael eich cefnogi yn eich rôl gan Gydlynydd Gwirfoddolwyr.

Person 🔗

Bydd y rôl hon yn addas ar gyfer pobl sydd:

  • â diddordeb mewn tyfu bwyd
  • yn meddu ar sgiliau cyfathrebu a gwrando da
  • yn mwynhau siarad am dyfu bwyd a'i hyrwyddo
  • yn hapus i gymryd rhan yn unigolyn ac fel rhan o dîm
  • Yn gallu rhannu gwybodaeth a/neu gyflwyno gwybodaeth i eraill
  • ag agwedd gadarnhaol, drefnus a hyblyg at wirfoddoliyn awyddus i ehangu eu gwybodaeth mewn garddwriaeth
  • yn gallu mynychu digwyddiadau hyfforddi Master Gardener

Cyswlllt 🔗

Am fwy o wybodaeth am Tyfu Dyfi, cysylltwch â Jane Powell, Jade Phillips neu Naomi Heath ar e-bost y brosiect neu ffoniwch i Jane ar0 07929 857173.

Am wybodaeth bellach am waith Garddio Organig cysylltwch ag aelod y tim garddwriaeth trwy e-bost, neu ffôniwch 024 7630 3517.

Master Gardeners community growing

Dewch yn Brif Arddwyr yng Nghanolbarth Cymru

Mynychwch un o'n cyrsiau hyfforddi a dod yn ddylanwadwr yn eich cymuned leol, gan rannu sgiliau, gwybodaeth a hyfforddiant ynghylch tyfu organig. Darganfyddwch fwy am y rôl a chofrestrwch i wirfoddoli gyda ni.

Gofynnwch am help Prif Arddwr

Mynnwch gyngor, trefnwch sgwrs garddio neu gwahoddwch ein Prif Arddwyr i'ch digwyddiad lleol.

  • Master Gardeners working at North Road in Mid Wales
  • Trowel and herbs at our Master Gardeners project Wales
  • Flyers and flowers at our Master Gardeners project in mid Wales
  • EAFRD Welsh Government logo
  • Tyfu Dyfi Master Gardener project logo